+44(0)20 7638 9271

Druces LLP Cymraeg

Cwmni’r Gyfraith yn Llundain yw Druces PAC (Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig) sydd hefyd yn ymestyn i anghenion cwsmeriaid rhyngwladol. Mae gan y cwmni profiad helaeth o ddelio gydag anghenion cwsmeriaid Cymraeg. Mae Rachel Jones, sydd yn arbenigwr cysylltiol o fewn ein hadran Profeb Cynhennus, yn rhugl yn y Gymraeg gyda chysylltiadau â chwmnïa a chysylltiadau personol ar draws Cymru.

Mae gan Druces PAC gwybodaeth a phrofiad helaeth o fewn sector busnes a marchnad weithredol eu cwsmeriaid. Rydym yn deall anghenion ein cwsmeriaid ag o ganlyniad rydym yn cynnig cymorth ac atebion masnachol iddynt. Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys busnesau newydd a BBaCh (busnesau bach a chanolig eu maint), partneriaethau, PACiau, cwmnïau, corfforaethau eang a chwmnïau rhyngwladol, sefydliadau ariannol a banciau preifat. Yn ychwanegol, rydym yn gweithredu’n gyfrinachol ar ran unigolion o fewn busnesau, byddem yn darparu’r unigolion yma gydag amrywiaeth eang o wasanaethau ymgynghorol.

Tîm Corfforedig a Masnachol

Mae ein tîm yn cynnig a darparu gwasanaethau gweithrediadau masnachol; gwasanaethau corfforedig, rhestri, strwythurau ac ad-drefniadau; cydsoddiadau a chaffaeliadau, gwaredu, a sefydlu; gwasanaethau ariannol; buddsoddiad corfforedig; gweithrediadau traws border; eiddo deallusol; treth; gweithdroad corfforedig, ailstrwythuro a methdaliadau; a chyflogaeth.

Tîm ymddiriedol i gwsmer preifat

Mae ein tîm yn cynnig a darparu cyngor mewn perthynas â gwasanaethau cwsmer preifat rhyngwladol, treth a dyraniad ymddiriedolaethau, rheolaeth ystâd a chynllunio; elusennau; ewyllysiau a phrofebion; a phrofebion cynhennus sy’n cynnwys ymgyfreithiad a datrysiad anghydfodau mewn perthynas ag ewyllysiau, ystâd ac ymddiriedolaethau.

Tîm Ymgyfreithiad a Datrysiad Anghydfodau

Mae ein tîm yn cynnig a darparu cyngor a chynrychiolaeth yn yr Uchel Lys ar gyfer cwmnïau, ac anghydfodau masnachol a chytundebol; anghydfodau partneriaeth a chyfranddalwyr; a hawlio esgeulustod proffesiynol; yn ychwanegol yr ydym yn cynnig a darparu gwasanaethau cyflafareddu. Rydym yn arbenigo mewn datrys problemau ymgyfreithiad ac anghydfodau o fewn eiddo preswyl ac eiddo masnachol.

Tîm Eiddo

Mae gennym dîm profiadol sydd yn arbenigo mewn gweithrediadau eiddo preswyl gwerth uchel a gweithrediadau eiddo masnachol; datblygiad eiddo; rheolaeth eiddo; cyllid yr eiddo; buddsoddiad eiddo a buddsoddiad eiddo syndicadau; adeiladwaith ac adeiladwaith cynhennus; cynllunio a materion amgylcheddol; ymgyfreithiad eiddo a datrys anghydfodau; a threth mewn perthynas ac eiddo.

Legal 500

Mae nifer o ein gwasanaethau wedi eu hargymell o fewn Legal 500. Edrychwn ymlaen at siarad gyda chi.

Featured news

  • Druces to hold a Breakfast Briefing: Islamic finance – a legal update, on 13 March 2018

    With Brexit coming fast upon us, attention is being focused ...

    Read More >
  • Druces Strengthens Corporate & Commercial Team With New Partner Hire

    12 February 2018 – Druces is delighted to announce the arr...

    Read More >

Briefing notes

  • Lasting Power of Attorney Fee Refund Scheme

    In order to register a Lasting Power of Attorney (LPA) or En...

    Read More >
  • Ignorance Is Not An Excuse. Non-Resident Capital Gains Tax – Don’t Be Late!

    The Basics Since 6th April 2015, non-resident individuals ha...

    Read More >